Gruff Rhys
Taith lawnsio albwm DIM PROBS
Medi / Hydref 2025
Henllan, Portmeirion, Machynlleth, Treorci, Bodedern, Rhyd-y-Main, Rhoshirwaun, Crymych
Taith lansio albwm DIM PROBS
O gwmpas rhyddhau ei albwm diweddaraf iaith Gymraeg, Dim Probs, bydd Gruff Rhys yn chwarae nifer o sioeau mewn rhai lleoliadau arbennig.
Mae tocynnau’n gyfyngedig / Cefnogaeth i’w gyhoeddi / Digwyddiadau eistedd fydd rhain
DIM PROBS
“Mae ‘Dim Probs’ yn ganlyniad o dreulio’r blynyddoedd diwethaf yn paratoi casgliad gyda ffrindiau o gasetiau cerddoriaeth electroneg Cymraeg yr 80au. Hyd yn oed os na chaiff y casglaid byth ei ryddhau mae rhai o’i weadau peiriannol wedi’u hymgorffori yn y record hon… wedi’u gwrthbwyso gan y ffaith i mi ei ysgrifennu i gyd gyda fy ngitâr acwstig rhad fel prif offeryn. Gadewais rai o’r trefniadau yn syml iawn ond ar ganeuon eraill gofynais i ffrindiau o fy ngrŵp byw (Kliph Scurlock, Osian Gwynedd, Huw V Williams a Gavin Fitzjohn) i helpu ar ambell gân, ac mae Cate Le Bon a H Hawkline yn ychwanegu lleisiau cefndir ar y traciau agoriadol (Pan Ddaw’r Haul I Fore a Chwyn Chwyldroadol!).
O ystyried y cyfnod erchyll gwleidyddol sydd ohoni mae’r teitl Dim Probs yn jôc dywyll, yn enwedig gan fod y geiriau, gobeithio mewn ffordd chwareus, yn ymdrin yn amrywiol â marwolaeth (Taro #1 + #2), chwyn (Chwyn Chwyldroadol!), rhyfel. (Cyflafan) a phlâ (Acw).
- GRUFF RHYS
RHESTR TRACIAU
- Pan Ddaw’r Haul I Fore
- Cân I’r Cymylau
- Saf Ar Dy Sedd
- Taro #1 + #2
- Dos Amdani
- Chwyn Chwyldroadol!
- Cyflafan
- Dim Probs
- Adar Gwyn
- Gadael Fi Fynd
- Slaw
- Acw
SIOEAU
Bydd Gruff hefyd yn perfformio yn ARA DEG 2025 ym Mhethesda, Nos Sadwrn 13eg Medi
SEFYDLIAD EGLWYS HENLLAN
DINBYCH
Nos Mawrth 9fed Medi
NEUADD ERCWLFF
PORTMEIRION
Nos Iau 18fed Medi
Y TABERNACL
MACHYNLLETH
Nos Wener 19eg Medi
Y PARC A'R DÂR
TREORCI
Nos Sadwrn 20fed Medi
NEUADD GOFFA
BODEDERN
Nos Fawrth 30ain Medi
NEUADD BENTREF
RHYD-Y-MAIN
DOLGELLAU
Nos Fercher 1af Hydref
NEUADD BENTREF
RHOSHIRWAUN
PWLLHELI
Nos Wener 3ydd Hydref
NEUADD Y FARCHNAD
CRYMYCH
Nos Sadwrn 4ydd Hydref
GRUFF RHYS
Wedi arwyddo â Rough Trade Records yn 2018, cynigiodd yr albwm Babelsberg olwg baróc ar y byd modern; yna blwyddyn yn ddiweddarach grëodd Pang!, sef cymysgedd pop amlieithog, a grëwyd mewn cydweithrediad â’r artist-gynhyrchydd Zulu, Muzi. Dringodd Seeking New Gods y siartiau, a gyrhaeddodd y Deg Uchaf ym Mhrydain, drwy archwilio tir newydd o ran geiriau a cherddoriaeth, record gysyniadol ac ei albwm unigol mwyaf llwyddiannus ar y pryd. Yn 2024 rhyddhawyd ei ddilyniant, y record bop sgrin lydan ‘Sadness Sets Me Free’. Wedi’i recordio ar gyrion Paris gyda’i fand, cafodd adolygiadau gwych pellach a chafodd ei ganmol yn eang fel un o’i weithiau gorau. Yn 2025 disgwyliwn ei albwm Cymraeg ddiweddaraf Dim Probs.