N’famady Kouyaté / The Successors of the Mandingue a Ffrindiau

Mae N’famadyKouyaté yn brif gerddor ifanc o Guinea (Conakry), sydd bellach yn byw yng Nghymru. Aml-offerynnwr talentog a syfrdanodd gynulleidfaoedd ledled y DU ac Iwerddon yn ystod hydref / gaeaf 2019/20 gyda’i ddehongliadau modern o ganeuon a rhythmau traddodiadol Gorllewin Affrica Mandingue trwy gefnogi Gruff Rhys ar daith Pang! Prif offeryn N’famady yw’r balafon – seiloffon pren traddodiadol, sy’n gysegredig i ddiwylliant Gorllewin Affrica a’i dreftadaeth deuluol o’r griot.
Mae’r digwyddiad hwn yn gweldN‘famady gyda band llawn fel The Successors of the Mandingue – lle mae ei drefniadau yn gyfuniad o ddylanwadau jazz, pop a ffync Mandingue Affricanaidd a gorllewin Ewrop a ddarperir gan gasgliad anhygoel o gerddorion. Mae’r offeryniaeth yn cynnwys balafon, bysellfyrddau, pecyn drwm, djembe, gitâr, kora, congas, sacsoffon, trwmped, a callabash. Mae perfformiadau N’famady yn creu awyrgylch a dirgryniadau anhygoel ble bynnag yr aiff, ac mae cynulleidfaoedd yn cael eu swyno gan ei frwdfrydedd heintus a’i lawenydd.
Bydd ffrindiau yn ymuno gyda’r band gan gynnwys Lisa Jên.
** Bydd y band yn lawnsio eu EP newydd ‘Aros i fi yna’ ar y noson hefyd**


pris

£12.00

Dyddiad

Gorff 03 2021
Expired!

Amser

Drysau/Doors 7pm
7:30 pm