PARTI CYNHESU TONNAU: DEF MAMA DEF (SENEGAL) & TONNAU DJS
Mae Neuadd Ogwen a Gwyl Tonnau yn falch o gyflwyno Def MaMa Def ar gyfer parti Cynhesu Tonnau. Mae Def MaMa Mae Def yn ddathliad o gyfoeth cerddorol Senegal ac Afrobeats, Hip Hop a synau electronig wedi’u hysbrydoli gan rythmau a diwylliannau y cyfandir. Daw’r gefnogaeth gan DJs preswyl Gŵyl y Tonnau, Elgan a Piwi, sy’n chwarae cymysgedd o gerddoriaeth wreiddiau Trofannol sy’n crisialu sŵn Gŵyl Tonnau – a gynhelir ddechrau Gorffennaf ar Ynys Môn.