RICHARD HAWLEY

Ond nifer fach o docynnau ar gael. Mae pris yma y cynnwys costau bwcio.

Mae Richard Hawley sy’n wreiddiol o Sheffield wedi rhyddhau naw albwm stiwdio dros yr ugain mlynedd diwethaf, gyda dau yn cael eu henwebu ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Mercury. Mae hefyd yn enwebai i’r Brits ac derbyniodd Wobr South Bank yn 2007. Yn 2023 derbyniodd 2 Wobr Olivier am y Sioe Gerdd Orau a’r Gerddoriaeth Orau am ei Musical Standing At The Sky’s Edge a lwyfannwyd yn The National Theatre a The Crucible yn Sheffield.
Dros y blynyddoedd, mae Richard wedi dod yn adnabyddus am ei chwarae gitâr â’i ganu. Mae wedi perfformio deuawd gyda Tom Jones, Nancy Sinatra a Shirley Bassey, ac wedi chwarae gydag (ymhlith llawer mwy) Arctic Monkeys, Elbow, Paul Weller, Manic Street Preachers a Pulp, y band y bu’n chwarae gitâr ag ef am nifer o flynyddoedd.
Mae’n fwyaf adnabyddus am ei gyfansoddi caneuon clasurol a llais cras gogleddol Lloegr, ac mae Richard yn artist unigryw ym myd cerddoriaeth boblogaidd ym Mhrydain, ac yn gallu croesi ffiniau o un arddull gerddorol i’r llall tra’n cadw ei hunaniaeth gref ei hun yn gyfan.
Ym mis Hydref 2023 daeth ei albwm goreuon ‘Now Then’ a’r 4ydd albwm 10 uchaf i Richard a derbyniodd nifer o adolygiadau 5/5 ar draws y cyfryngau.
Bydd ei albwm stiwdio newydd ‘In This City They Call You Love’ yn cael ei ryddhau ar 31 Mai 2024.


ARCHEBU TOCYNNAU

RICHARD HAWLEY 22/5/2024 £38.50
Ar gael Tocynnau: 0
The RICHARD HAWLEY 22/5/2024 ticket is sold out. You can try another ticket or another date.
TOCYNNAU

pris

£38.50

Dyddiad

Mai 22 2024

Amser

7:00 pm