DATHLIAD CYMRU AFFRICA (Sadwrn): Kanda Bongo Man, Suntou Susso, Rasha, Agmar Band

Tocyn ar gyfer pob perfformiad cerddoriaeth yn y Neuadd Ogwen ar Dydd Sadwrn

Agmar band

Syniad y cerddor Hassan Nainia sy’n hanu o ranbarth Sous yn ne Moroco yw Agmar Band. Maen nhw’n chwarae fusion o gerddoriaeth Gogledd Affricanaidd traddodiadol, yn bennaf Amazigh (Berber), gan ddefnyddio’r offeryn Amazigh traddodiadol y Loutar a banjo.

Ar ôl gyrfa yn ymestyn dros ddegawdau ym Moroco, mae Hassan bellach wedi’i adnabod yn y DU am gydweithio ar albwm 2018 Jah Wobble & MoMo Project-Maghrebi Jazz a perfformio gyda’r chwaraewr kora Senegalaidd Diabel Cissokho.

Cydweithrediad Dawns Fusion: Shakeera Ahmun & Almamy Camara

Yn wreiddiol, cyfarfu Shakeera Ahmun (artist dawns gyfoes a stryd) ac Almamy Camara (meistr ddawnsiwr o Orllewin Affrica) ar-lein wrth gymryd rhan mewn prosiect cydweithredol dawns rhyngwladol The Successors of the Mandingue yn ystod y cyfnod clo. Daeth y prosiect hwnnw â dawnswyr Gorllewin Affricanaidd traddodiadol o Gini sy’n byw yn y DU a Chanada ynghyd ag artistiaid dawns cyfoes yn y gwledydd hynny i greu darn fusion trwy Zoom. Rydym yn gyffrous iawn i weld sut mae’r bartneriaeth hon yn datblygu drwy ddod â nhw a’u harddulliau unigryw at ei gilydd yn yr un ystafell!

Mae Shakeera Ahmun yn artist dawns llawrydd, perfformiwr ac athrawes, wedi’i leoli yng Nghaerdydd, Cymru. Ers graddio yn London Contemporary Dance School a California Institute of the Arts, mae Shakeera wedi cydweithio â llawer o artistiaid dawns ac amlddisgyblaethol annibynnol.

Mae Oumar Almamy Camara yn ddawnsiwr ac yn athro dawns o Conakry, Gini. Er mwyn bod yn wir feistr ar ddawns Gini, mae angen i’r dawnsiwr wybod y rhythmau a gallu eu chwarae.

Rasha

Mae Rasha yn gantores, cerddor a chyfansoddwr caneuon hynod ddawnus o Swdan sydd wedi bod â phresenoldeb byd-eang yn y sin gerddoriaeth ryngwladol ers dros 30 mlynedd.

Mae arddull gerddorol Rasha yn gyfuniad hynod ddiddorol o arddulliau gan gynnwys traddodiadau cerddorol canrifoedd oed y diwylliant Nubian, rhythmau canolbarth y Swdan, curiadau tom-tom y Sahel Affricanaidd, adleisiau a dylanwadau synau Gogledd Affrica, synau Arabeg ac Andalusaidd (flamenco), blues modern, jazz a reggae.

Trwy ei gyrfa mae Rasha wedi cydweithio â Youssou N’Dour, K’naan, Geoffrey Oryema a nifer arall.

Suntou Susso gyda Binta Susso

Mae Susso yn aml-offerynnwr: chwaraewr Kora, offerynnwr taro, canwr a chyfansoddwr o’r Gambia.

Wedi’i eni i fewn i’r traddodiad Griot 700-mlwydd-oed, mae Suntou yn perfformio’i rôl fel haneswr, storïwr, ac yn uno pobl trwy gân. Liwt-telyn 22 tant yw’r kora, offeryn prin a hudolus. Mae cerddoriaeth Suntou Susso yn dod â naws dda ac yn cyfuno sain gyfoethog a thraddodiadol ei ddiwylliant Mandinka Gorllewin-Affricanaidd ag Affro-funk a soul.

Gyda’r gantores wadd arbennig o Gaerdydd, Binta Susso.

Kanda Bongo Man

Wedi’i adnabod fel “The King of Soukous”, roedd y seren Congolese Kanda Bongo Man yn un o’r artistiaid cynharaf i gyflwyno’r gerddoriaeth hon yn rhyngwladol. Mae’n fwyaf enwog am ei unawdau gitâr hudolus a roddodd enedigaeth i’r ddawns enwog Kwasa Kwasa, a hyrwyddwyd gan John Peel ac Andy Kershaw ar ddiwedd yr 80au!

Mae cerddoriaeth Kanda wedi cael ei yrru gan optimistiaeth a hapusrwydd. Mae ei berfformiadau gwefreiddiol yn gyffrous ac yn egnïol ond eto wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn y traddodiad Congo. Gyda’i fand saith-darn anhygoel y tu ôl iddo, peidiwch â cholli’r cyfle i brofi cerddoriaeth a dawns lawen ganolbarth Affrica Kanda Bongo Man.


pris

£25.00

Dyddiad

Meh 03 2023
Expired!

Amser

4:00 pm