DATHLU HUD A LLEDRITH CYMRU 2024

Gyda phleser o’r mwyaf, dyma gyflwyno siaradwyr DATHLU HUD A LLEDRITH CYMRU 2024:

KRISTOFFER HUGHES yw sylfaenydd a phennaeth Urdd Derwyddon Ynys Môn. Mae’n awdur arobryn sy’n canolbwyntio ar fytholeg Geltaidd a Chymreig, a marwolaeth a galar. Mae’n arwain gweithdai a chyrsiau ar-lein ac wyneb-yn-wyneb ledled y DU, Ewrop, UDA ac Awstralia, yn ogystal â chyfrannu’n gyson i deledu a radio Cymraeg a Saesneg – fel ei hunan, ac fel yr anhygoel Maggi Noggi.

Mi fydd Kris yn trafod dylanwad Iolo Morgannwg ar draddodiadau argel modern.

Mae Dr DELYTH BADDER yn lên-gwerinydd, yn awdur, ac yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus gydag Amgueddfa Cymru, gyda diddordeb academaidd arbennig mewn ymddangosiad ysbrydoedd o fewn y traddodiad Cymreig. Yn ogystal â chyfrannu’n gyson i drafodaethau yn y cyfryngau ynghylch llên gwerin Cymreig, mae Delyth wedi cyd-awduro ‘The Folklore of Wales: Ghosts’, a bydd yn rhannu pytiau o’r astudiaeth gyfoes a chyffrous yma o lên gwerin ysbrydion Cymru drwy’r canrifoedd gan ddefnyddio deunydd prin sydd heb ei gyhoeddi na’i gyfieithu erioed o’r blaen. Mae Delyth hefyd yn gweithio fel y Patholegydd Pediatrig Cymraeg cyntaf erioed, ac fel Archwilydd Meddygol i’r GIG. Yn wreiddiol o Bwllheli, mae Delyth bellach wedi ymgartrefu yn un o dai crynion Dr William Price ym Mhontypridd gyda’i gŵr, yr awdur Dr Elidir Jones, a’u dau gi achub (ynghyd â nifer amhenodol o fwganod).

Mae GWYN EDWARDS yn storïwr achlysurol ac yn geidwad gwybodaeth gynhenid ​​sy’n gwasanaethu i gynnal traddodiadau a chredoau Cymreig-Baganaidd.

Bydd Gwyn yn ein hebrwng i wlad y Tylwyth Teg.

Mae MHARA STARLING yn Swynwraig Gymraeg ac awdur ‘Welsh Witchcraft: a Guide to the Spirits, Lore, and Magic of Wales‘. Mae hi’n rhannu ei chariad at lên gwerin, mytholeg, a hud a lledrith Cymru trwy ei sianel YouTube, tudalennau cyfryngau cymdeithasol, a’i phodlediad ‘The Welsh Witch Podcast’. Mae hi wedi ymddangos mewn cyfresi teledu a rhaglenni dogfen amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac mae’n cyfrannu’n gyson ar y radio.

Mi fydd Mhara’n trafod dylanwad chwedloniaeth Cymru ar ddewiniaeth fodern.

O Lanrug yn wreiddiol, mae GARETH ROBERTS yn ffotograffydd a darlunydd sydd wedi cyfrannu i nifer o gyhoeddiadau ers y 1980au. Fel cydlynydd Cynllun Cerdded a Darganfod Menter Fachwen mae’n plethu ei ddawn artistig gyda’i gariad at hanes lleol i dywys teithiau cerdded poblogaidd,  dylunio a chyhoeddi mapiau hanes lleol, yn ogystal â chynnal amrywiol arddangosfeydd… a llawer mwy.

Mi fydd Gareth yn ein cyflwyno i anifeiliaid hud Cymru.

Mae Dr GWILYM MORUS-BAIRD yn ysgolhaig o fri sy’n rhannu ei astudiaethau i ddoethineb, hanes, llenyddiaeth a chwedloniaeth Geltaidd gydag eraill ledled y byd, trwy gyfrwng ei gyrsiau ar-lein hynod ddifyr. Mae hefyd yn gerddor medrus sydd wedi rhyddhau sawl albwm Cymraeg, ac mae ganddo dros ddau ddegawd o brofiad ym maes cyfansoddi a pherfformio yn ogystal â chynhyrchu, theatr ac adrodd straeon.

Mi fydd Gwilym yn mynd â ni ar daith ddiddorol i ymweld â’r Mabinogi.

Bydd y cyflwyniadau hyn yn cael eu cyfieithu ar y pryd gan wasanaeth cyfieithu Geiriau Gwyn a sefydlwyd yn 1999 fel cwmni sydd yn darparu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg><Saesneg. Darparai’r cwmni wasanaeth cyfieithu ar y pryd ac ysgrifenedig ar draws Cymru gyfan, ac hyd yn oed ymhellach. Mae’r perchennog GWYNFOR OWEN yn aelod achrededig [Cyfieithu ar y Pryd] o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ac wedi ymrwymo i ddarparu cyfieithiadau o’r safon uchaf posib.


pris

£20.00

Dyddiad

Ebr 20 2024
Expired!

Amser

9:00 am - 6:00 pm