Parti Penblwydd 20 Blwyddyn BANDA BACANA + Gwestai arbennig Ram Ram, DJ Fflyffilyfbybl

Dywedodd y band, “Mae Banda Bacana wedi bod yn mynd ers 20 mlynedd ac rydym yn meddwl ei fod yn esgus da i ddathlu. Ers ein sefydlu yn y 2000au cynnar rydym wedi bod yn gigio o gwmpas gogledd Cymru ac yn bellach; priodasau, partïon, gwyliau, tafarndai a llawe mwy. Trefnwyd un o’n gigs cyntaf gan Byd Mawr, criw trefnu gweithgaredd cerddoriaeth byd a ddaeth â nifer o gerddorion a bandiau anhygoel i’r ardal dros y blynyddoedd ac mae’r DJ Dewi Fflyffilyfbyblwedi cytuno i ymuno â ni yn ein dathliad penblwydd.

Rydym hefyd yn gyffrous iawn i fod yn rhannu llwyfan gyda Ram Ram, band reggae a ska o Fethesda. Maen nhw’n fand byw gwych, gyda 3 canwr, cyrn a chyriadau ska/reggae rhagorol. Maen nhw wedi bod yn uchafbwynt ym myd cerddoriaeth gogledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf ac maen nhw i gyd yn hynod dalentog ac yn llawn egni. Felly os nad ydych wedi eu gweld eto peidiwch â cholli’r cyfle hwn!

Trwy’r cyfan mae ein cynulleidfaoedd anhygoel wedi dod allan i’n cefnogi, gan ddod â heulwen a gwen i’r llawr dawnsio. Gobeithio y dewch i ymuno â ni ar Fai 3ydd yn Neuadd Ogwen a’i wneud yn ben-blwydd i’w gofio. Dyma i 20 mlynedd arall!”

pris

£12.00

Dyddiad

Mai 03 2024
Expired!

Amser

7:30 pm

Organizer

Neuadd Ogwen
Neuadd Ogwen
Phone
01248 208850
E-bost
post@neuaddogwen.com